Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (53)v2 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
|
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)
|
3. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4937 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu mai busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru;
2. Yn nodi’r rhan effeithiol y gall rhyddhad ardrethi busnes ei chwarae i ysgogi economïau lleol a gwella cyfleoedd cyflogaeth; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 y flwyddyn, a darparu rhyddhad sy’n lleihau’n raddol i fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol hyd at £15,000, er mwyn hybu creu cyfoeth a hybu cyflogaeth.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi’r canlynol yn ei le:
Yn nodi bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adolygu Ardrethi Busnes yn ystyried materion sy’n ymwneud â pholisi Ardrethi Busnes yng Nghymru. Bydd y Grŵp yn rhoi adroddiad yn fuan.
[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hadolygiad o ardrethi busnes yn rhoi sylw i:
a) y sefyllfa lle mae gwella eiddo sy’n achosi cynnydd mewn gwerth yn arwain at gynnydd yn ardrethi busnes y busnes hwnnw;
b) y cynnydd enfawr mewn ardrethi busnes pan fydd gwerthoedd yn cynyddu;
c) y swyddogaeth sydd gan awdurdodau lleol o ran casglu a chadw ardrethi busnes;
d) posibilrwydd ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i ragor o gyfleusterau cymunedol; ac
e) a fyddai Cymru yn elwa o fabwysiadu’r un trefniadau cyfrifyddu â’r rheini yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu popeth cyn ‘er mwyn’ a rhoi yn ei le:
‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhyddhad ardrethi llawn i bob busnes sydd â gwerth ardrethol hyd at £6,000 y flwyddyn, a darparu rhyddhad sy’n lleihau’n raddol i fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol hyd at £18.000’.
|
4. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM4938 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran sicrhau pwerau datganoledig ychwanegol yn dilyn y refferendwm llwyddiannus yn 2011;
2. Yn cydnabod y gefnogaeth eang ar gyfer rhagor o ddatganoli; a
3. Yn edrych ymlaen at ragor o ddatblygiadau o ran datganoli pwerau, gan gynnwys cyfrifoldeb ariannol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:
‘, ond yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth bresennol Cymru i ddefnyddio potensial llawn y pwerau a roddwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol o ganlyniad i’r refferendwm yn 2011 ers yr etholiad ym mis Mai 2011’;
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘Yn edrych ymlaen at’ a rhoi yn ei le ‘gael argymhellion Comisiwn Silk, yn dilyn ei adolygiad helaeth o faterion ariannol yng Nghymru.’
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlwyd gan lywodraeth y DU i edrych ar ddatblygiad pellach o ran datganoli pwerau gan gynnwys cyfrifoldeb ariannol.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r arolwg a gyhoeddwyd gan BBC Cymru / ICM sy’n dangos bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cefnogi rhyw fath o bwerau amrywio treth i Gymru.
Gellir gweld canlyniadau’r arolwg drwy fynd i: |
5. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM4939 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw am:
a) cyflwyno cynllun gwarantu blaendal yng Nghymru i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf;
b) defnyddio dulliau ariannu amgen yn weithredol fel bondiau ac adeiladu cartrefi newydd ar lefelau rhent gwahanol fel ffordd o fynd i’r afael â’r diffyg presennol o ran tai fforddiadwy;
c) rhaglen cartrefi gwag ledled Cymru i gynyddu nifer yr eiddo gwag sy’n dod yn ôl i gael eu defnyddio fel eiddo preswyl gan roi mwy o bwerau i awdurdodau lleol i ddod ag eiddo gwag yn ôl i gael eu defnyddio; ac
d) rhoi rhagor o bwerau i awdurdodau lleol i bennu cyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi yn eu hardaloedd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi:
a) mae Llywodraeth Cymru yn ystyried rhinweddau cynllun gwarant indemniad morgais er mwyn helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf;
b) mae Llywodraeth Cymru yn ceisio pennu ffynonellau eraill o gyllid er mwyn ariannu’r gwaith o adeiladu cartrefi mwy fforddiadwy;
c) bydd y fenter newydd genedlaethol ynghylch cartrefi gwag "Troi Tai yn Gartrefi" yn cynorthwyo awdurdodau lleol i wneud y defnydd gorau o’u pwerau presennol i fynd i’r afael â phroblem cartrefi gwag;
d) bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ehangu pwerau disgresiwn awdurdodau lleol i amrywio cyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi yn eu hardaloedd; ac
e) yr heriau a amlinellir yn y papur diweddar, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, a’r angen am gytundeb barn ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer bodloni anghenion tai pobl.
2. Yn credu y bydd Diwygiadau Lles arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael effaith uniongyrchol ar dai fforddiadwy, yn arbennig i’r rhai ar incwm isel. Tynnwyd sylw at hyn mewn ymchwil diweddar gan y Sefydliad Tai Siartredig.
Ceir gwybodaeth am "Troi Tai yn Gartrefi" drwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/private/emptyhomes/housestohomes/?lang=cy
Ceir y papur diweddar, "Cwrdd â’r Her Tai: Creu consensws ar gyfer gweithredu" a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth drwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/consultations/housingcommunity/housingchallenge/?lang=cy
Gellir gweld ymchwil y Sefydliad Tai Siartredig drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
Llywodraeth Cymru i osod targedau uchelgeisiol ar gyfer creu tai fforddiadwy, gan adeiladu ar lwyddiant y llywodraeth flaenorol.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â darparwyr tai sector preifat a thrydydd sector allweddol a chyllidwyr i gytuno ar Strategaeth Adfer Tai i Gymru a’i gweithredu.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y gostyngiad yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn lleihau ei gallu i gyllido cynlluniau tai fforddiadwy yn sylweddol. |
Cyfnod Pleidleisio |
6. Dadl Fer (30 munud)
NDM4936 Mike Hedges (Gorllewin Abertawe):
Sut y Dylid Ariannu Cymru?
Bydd pwnc y ddadl hon yn canolbwyntio ar y meini prawf a ddefnyddir i benderfynu pa drethi y dylid eu datganoli i Gymru, yn ogystal â pha drethi sy’n diwallu’r meini prawf hynny. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, dydd Mawrth, 20 Mawrth 2012